Dugaeth Schleswig

Dugaeth Schleswig
Enghraifft o'r canlynolardal hanesyddol, dugiaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1866 Edit this on Wikidata
Label brodorolHerzogtum Schleswig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1058 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Map
OlynyddProvince of Schleswig-Holstein Edit this on Wikidata
Enw brodorolHerzogtum Schleswig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dugaeth rhwng afon Eider yn y de ac afonig Kongeå yn y gogledd ar benrhyn Jylland (Jutland), oedd Dugiaeth Schleswig (Daneg: Hertugdømmet Slesvig; Dugiaeth Hertugdømmet Sønderjylland (Dugaeth De Jylland) yn wreiddiol; Almaeneg: Herzogtum Schleswig). Roedd hi'n cwmpasu ardal rhwng tua 60 km (35 milltir) i'r gogledd a 70 km (45 mi) i'r de o'r ffin bresennol rhwng yr Almaen a Denmarc. Mae'r diriogaeth wedi'i rhannu rhwng y ddwy wlad ers 1920, gyda Gogledd Schleswig yn Nenmarc a De Schleswig yn yr Almaen.

Yn wahanol i Holstein a Lauenburg, nid oedd Schleswig erioed yn rhan o Gydffederasiwn yr Almaen. Yn hytrach, roedd Schleswig dan wrogaeth Denmarc, ac roedd ei thrigolion yn siarad Daneg, Almaeneg, a Gogledd Ffriseg. Roedd Rhyddfrydwyr Cenedlaethol Denmarc a'r Almaen ill dau eisiau i Schleswig fod yn rhan o wladwriaeth genedlaethol Danaidd neu Almaenig yn y 19eg ganrif. Gwrthryfel Almaenig ym mis Mawrth 1848 achosodd Rhyfel Cyntaf Schleswig a ddaeth i ben yn 1852. Wedi Ail Ryfel Schleswig (1864), roedd y tair Dugiaeth yn cael eu llywodraethu ar y cyd gan Awstria a Phrwsia. Yn 1866, daethant yn rhan o Prwsia.

Y Knud (arglwydd) Lavard (1096 –1131) oedd y cyntaf i dderbyn y teitl Hertug (Dug), teitl Ewropeaidd ar uchelwyr a oedd hefyd wedi lledaenu i'r gwledydd Nordig. Ar ôl 1386 daeth yn fwy cyffredin i'r Daniaid enwi'r lle fel Slesvig (o'r Almaeneg Schleswig) yn hytrach na De Jutland Denmarc. Buodd ymgypris rhwng Daniaid ac Almaenwyr ar y diriogaeth hon ers canrifoedd.

Mae'r ardal ddeheuol bellach yn rhan o Schleswig-Holstein, un o daleithiau'r Almaen.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne